Ceufad Môr
Mae Anita yn cynnig teithiau ceufad môr a hyfforddiant ar gyfer unigolion, grwpiau preifat a theuluoedd.
Wedi lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri gallwn ddefnyddio Ynys Môn, Eryri, Conwy a Phen Llŷn ar gyfer ein diwrnodau hyfforddiant a theithiau tywys yng Ngogledd Cymru. Yn ystod tymor yr haf, rwy’n cynnig sesiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn i ddechreuwyr ac i deuluoedd.
Dwi'n trefnu ac yn arwain teithiau aml ddiwrnod mewn ardaloedd eraill o'r DU ac alldeithiau yn yr Alban ar gyfer grwpiau preifat. Cysylltwch â mi i drafod eich dymuniadau lleoliad, math o antur ac anghenion eich grŵp.
Dwi'n cyfuno fy ngwybodaeth am fywyd gwyllt a'r ardal ynghyd â'm harbenigedd caiacio môr i drefnu profiad sydd yn cyd-fynd a'ch anghenion a diddordebau ac yn sicrhau eich mwynhad gan ystyried y tywydd ar y diwrnod.
Ewch i'r tudalen canŵio a cheufadu er mwyn gweld cyfleoedd eraill padlo.
Dilynwch y dolenni isod i archebu. Diolch.
Dwi wrthi'n adeiladu'r tudalen yma. Bydd ragor o wybodaeth ar gael cyn hir. Yn y cyfamser cysylltwch er mwyn trafod eich anghenion a diddordeb.
Diolch, Anita